Stori Yasser

Daeth Yasser yn ddigartref pan dderbyniodd orchymyn troi allan dirybudd i adael ei gartref ar unwaith ym mis Chwefror 2019. Gadawodd gyda dim ond y dillad oedd amdano a chysgodd yn nhai amryw o’i ffrindiau ac ar strydoedd Caerdydd am y chwe mis canlynol, y mae’n eu disgrifio fel cyfnod gwaethaf ei fywyd.

Yn ystod yr ychydig fisoedd hyn, wynebodd gyfres o rwystrau. Heb le diogel, collodd ddogfennau pwysig, a chafodd ei fudd-daliadau eu hatal.

Meddai Yasser: “Fe wnaeth hyn ddifetha fy mywyd, ac roedd hi’n boenus iawn tan imi fynd i’r YMCA. Ond mae pethau’n dechrau gwella nawr gyda help y bobl yn y gwasanaeth.”

Mae Yasser yn cymryd rhan yn rhaglen Aspire yn y ganolfan, sy’n rhaglen hyfforddiant pedair wythnos o hyd i helpu pobl sy’n dioddef digartrefedd i fynd yn ôl i’r gwaith. Mae hefyd yn un o nifer o bobl ddigartref yng Nghaerdydd sy’n elwa o haelioni busnesau lleol trwy Siarter Digartrefedd Caerdydd.

“Mae’r cwrs wedi bod yn ddefnyddiol iawn ac wedi fy helpu gyda fy CV, ceisiadau am swyddi ac i gael pethau braf fel torri fy ngwallt trwy CAERedigrwydd cyn fy nghyfweliad.”

Ac yntau newydd gwblhau’r rhaglen ac yn teimlo’n hyderus wedi cael torri ei wallt yn daclus gan ‘Jones the Barber’, aeth Yasser am gyfweliad gyda’r Post Brenhinol am swydd dros dro am gyfnod y Nadolig ac aeth yn dda, ond nid oedd modd iddo dderbyn y swydd gan nad oes ganddo basbort.

Tan y gall ennill digon o arian i brynu un, fydd hi ddim yn bosibl iddo dderbyn unrhyw un o’r swyddi y caiff eu cynnig. Ond gyda gradd mewn Busnes a TG a’i fwriad i astudio am radd MA mewn Astudiaethau Busnes gyda’r Brifysgol Agored ddechrau’r flwyddyn nesaf, mae Yasser yn llawn ymrwymiad ac yn benderfynol ei fod am fynd yn ôl i weithio fel y gall “ennill ei fywyd yn ôl, cael lle i fyw a jesd gwneud y pethau bob dydd y bydd pobl yn eu gwneud.”

Sefydlwyd CAERedigrwydd a’r siarter mewn ymateb i brif bryder busnesau lleol yng nghanol dinas Caerdydd – sef digartrefedd.

Bellach, mae Siarter Digartrefedd Caerdydd yn caniatáu i fusnesau chwarae eu rhan yn yr ateb gyda llawer eisoes wedi cynnig addunedau yn cynnwys torri gwallt am ddim, gigs, gweithdai a phrofiad gwaith. Bydd yr addunedau hyn yn cynorthwyo pobl sydd mewn perygl neu sydd eisoes yn ddigartref, i ennill sgiliau a phrofiadau newydd fydd yn eu helpu ar eu taith oddi wrth ddigartrefedd.

Gall eich cyfraniadau i CAERedigrwydd helpu i chwalu rhwystrau ar gyfer pobl sy’n dioddef digartrefedd. Gallwch gyfrannu £3 trwy anfon neges testun GIVDIFF5 at 70331.

Stori Tom

Daeth Tom* yn ddigartref yn 2014 wedi i’w berthynas gyda’i bartner chwalu. Ym mis Medi 2018, rhoddwyd ein grant mwyaf o £750 iddo i brynu’r offer angenrheidiol i’w helpu i gychwyn busnes unwaith eto.

Cyn bod yn ddigartref, roedd Tom yn rhedeg cwmni adeiladu hirsefydlog yr oedd wedi ei greu a’i ehangu ei hun.

Cafodd newidiadau yn ei amgylchiadau personol a chwalfa ei berthynas effaith niweidiol ar ei iechyd a’i les yn gyffredinol.

Gyda’i hunan-barch ar ei lefel isaf erioed, aeth ei fusnes i’r wal ac roedd yntau’n ddibynnol ar fudd-dal salwch a gwasanaethau digartrefedd rheng flaen i’w gynnal.

Symudodd i mewn i hostel ac yna ymlaen i Dai â Chymorth Huggard, ble y clywodd am gronfa CAERedigrwydd.

Mae’r grant wedi helpu Tom i brynu offer i’w helpu i gychwyn ei fusnes yn y gymuned leol.

Bydd hyn yn ei helpu i gamu oddi wrth ddibynnu ar fudd-daliadau a thyfu’n fwy annibynnol yn ariannol. Mae ailffurfio ei fusnes wedi rhoi ymdeimlad mawr o bwrpas iddo ac mae’n gobeithio rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned trwy gyflogi pobl o’r ardal leol.

*newidiwyd ei enw

FOR Cardiff yn lansio siarter ddigartref

Heddiw (Dydd Iau 26ain Medi), mae FOR Cardiff wedi lansio Siarter Ddigartref Caerdydd er mwyn uno pobl, busnesau, ysgolion a phrifysgolion i drechu digartrefedd yng Nghaerdydd gyda’n gilydd.

Wedi ei chreu ar y cyd gyda sefydliadau i’r digartref, bydd yn cynnig ffyrdd eraill i roi trwy amser, cyflogaeth, sgiliau a gwasanaethau i helpu pobl sy’n profi neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Gellir addunedu trwy wefan CAERedigrwydd.

Mae busnesau, fel Neal’s Yard, The Greenery a Jones the Barber eisoes wedi camu ymlaen i gynnig gwahanol addunedau fel helpu pobl i ddod yn rhan o gymdeithas, hyfforddiant cogydd i wella eu cyflogadwyedd a thorri eich gwallt am ddim i gynyddu hyder.

Dywedodd Delyth Griffiths, perchennog The Greenery ym Marchnad Caerdydd, brofodd fod yn ddigartref ei hun yn 15 oed, “Rydw i wedi bod trwy gyfnod anodd fy hun gyda digartrefedd ac mae’n gallu teimlo fel bod y byd yn dy erbyn di. Y cyfan gymerodd hi oedd un person i fy helpu i ddod yn ôl ar y trywydd cywir a nawr fe alla’ i wneud hynny i rywun arall.

“Dwi’n cynnig rhoi hyfforddiant cogydd proffesiynol i rywun sy’n ddigartref, waeth ble maen nhw ar eu taith bersonol. Fe fyddan nhw’n dysgu am bopeth sydd ei angen i weithio mewn cegin broffesiynol a sut i redeg eu busnes arlwyo eu hunain, o gyfrif stoc i farchnata. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi’r sgiliau a’r hyder iddyn nhw gychwyn eu bywyd o’r newydd.”

I gydfynd a’r siarter, mae FOR Cardiff wedi gosod gorsafoedd cyfrannu parhaol, newydd yng nghanol y ddinas er mwyn parhau i godi arian ar gyfer eu cronfa ddigartrefedd, CAERedigrwydd.

Mae dwy orsaf gyfrannu sefydlog wedi eu gosod – un ar flaen Llyfrgell Ganolog Caerdydd a’r llall yng Nghanolfan Siop Dewi Sant. Defnyddir trydedd dyfais symudol ar ddyddiau digwyddiadau mawr a bydd ar gael i fusnesau lleol i godi arian.

Bydd 100% o’r arian a godir yn mynd i’r gronfa i gynnig cymorth uniongyrchol i bobl sy’n dioddef neu mewn perygl o fod yn ddigartref. Ers lansio’r cynllun rhoi digyffwrdd y llynedd, mae’r gronfa wedi derbyn £11,404 mewn cyfraniadau oddi wrth ymwelwyr, trigolion, busnesau a sefydliadau hael Caerdydd.

Mae 35 o grantiau wedi eu dyfarnu dros y flwyddyn ddiwethaf ar gyfer elfennau angenrheidiol, fel dogfennau adnabod, gwersi gyrru, dodrefn neu beiriannau i’r tŷ a hyfforddiant galwedigaethol, i helpu pobl i gael eu traed tanynt a’u cynorthwyo ar eu taith oddi wrth ddigartrefedd.

Meddai Andrea Powell o Sefydliad Cymunedol Cymru: “Mae rheoli’r gronfa yn golygu ein bod ni wedi gallu dosbarthu grantiau drwy’r gwasanaethau digartrefedd gwych yng Nghaerdydd, i bobl ddigartrefedd sydd eu hangen fwyaf, ac sydd yn fwyaf tebygol o elwa o ganlyniad i’w hymgysylltiad a’r gwasanaeth hyn.

Mae’r gronfa eisoes wedi cefnogi 35 o bobl i dderbyn eitemau hanfodol fel dogfennau adnabod i agor cyfrif banc, hyfforddiant galwedigaethol i sicrhau gwaith ac eitemau i’r tŷ fydd yn ei droi’n gartref. Gall y pethau hyn i gyd wella ansawdd bywyd ar gyfer unrhyw un sydd yn ddigartref neu sydd wedi profi digartrefedd a helpu i’w hatal rhag llithro’n ôl.”

Dywedodd Adrian Field, Cyfarwyddwr Gweithredol, FOR Cardiff, ardal gwella busnes y ddinas: “Fe wnaethon ni sefydlu CAERedigrwydd mewn ymateb i bryderon oddi wrth fusnesau am ddigartrefedd yn y ddinas. Roedden nhw eisiau dod o hyd i ffordd ystyrlon i helpu unigolion oedd yn cysgu allan. Roedd yr ymateb cychwynnol i’r gorsafoedd cyfrannu dros dro yn hynod o gadarnhaol ac mae gosod y rhai parhaol yn golygu y gallwn barhau â’r gronfa a dosbarthu mwy o grantiau.

“Gallwn fod yn falch i ddweud bod 100% o’r cyfraniadau’n mynd i’r unigolyn. Cyflwyno’r siarter yw’r cam nesaf wrth gynnig ffyrdd gwahanol i gefnogi pobl sydd mewn perygl.

“Mae’r ariannu a’r addunedau, wedi eu cyfuno â’r gwasanaethau sy’n bodoli eisoes, yn golygu ein bod yn dod at ein gilydd i roi cymaint o gyfleoedd â phosibl i bobl gymryd cam cadarnhaol oddi wrth eu sefyllfa bresennol.”

Meddai’r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne: “Mae’r Cyngor yn gweithio’n galed i gefnogi pob un sy’n dioddef digartrefedd yn y ddinas ac rydym yn gwybod bod trigolion ac ymwelwyr am helpu hefyd.

“Fel partneriaid CAERedigrwydd, rydym yn falch bod gennym orsaf digyffwrdd yn Hyb prysur y Llyfrgell Ganolog ble gall pobl gyfrannu i helpu unigolion yng Nghaerdydd sy’n profi cyfnod anodd yn eu bywydau.

“Mae Hyb y Llyfrgell yn lleoliad pwysig, nid yn unig i godi cymaint â phosibl, ond hefyd i dynnu sylw at yr hyn sy’n cael ei wneud ar draws y ddinas o ran digartrefedd. Ry’n ni’n gobeithio y bydd ymwelwyr yn dal i fod yn hael a rhoi yr hyn allan nhw, pan allan nhw i helpu.”

I gyfrannu trwy neges testun, anfonwch GIVDIFF5 at 70331 i roi £3.