Pwy rydych wedi eu helpu
Mae ariannu CAERedigrwydd yn cefnogi person sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref fel rhan o’u cynllun datblygiad personol.
Dyma rai o’r ffyrdd y mae eich cyfraniadau hael yn helpu.

Hunan-gyflogaeth
Mae gan bobl sy’n dioddef o ddigartrefedd neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref o leiaf un gollfarn droseddol yn aml, sy’n ei gwneud yn anodd iawn iddynt ddod o hyd i swydd. Mae llawer o ffurflenni cais yn holi ynghylch gweithgarwch troseddol blaenorol, ac mae’n rhaid i ni ddatgelu hyn dan y gyfraith oherwydd bydd llawer o gwmnïau’n cwblhau gwiriadau GDG. Mae hunan-gyflogaeth yn opsiwn gwahanol, ac mae CAERedigrwydd wedi helpu dau ymgeisydd am grant allan o ddiweithdra. Gyda’r grant £750 llawn, maent wedi gallu prynu’r offer hanfodol i ddechrau eu busnes. Gall cofnod troseddol atal cynnydd person sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o ddigartrefedd, gan ei adael heb lawer o opsiynau i ennill arian. Mae hyn yn cynyddu’r posibilrwydd y bydd yn troi’n ôl at droseddu i oroesi. Ni ddylai hanes o droseddu atal rhywun rhag symud ‘mlaen. Gall y grant yma helpu pobl sy’n dioddef…

Prawf Adnabod
Gall rhywbeth mor syml â bod yn berchen ar ryw fath o Brawf Adnabod fod yn gam allweddol o ran dianc rhag digartrefedd yn barhaol. Gall trwyddedau gyrru, pasbortau a thystysgrifau geni gael eu colli neu eu dwyn yn hawdd pan fo rhywun yn cysgu ar y stryd, ac mae’n anodd iawn cael rhai newydd heb gyfeiriad parhaol. Mae CAERedigrwydd yn cefnogi mynediad i Brawf Adnabod i bobl sy’n profi digartrefedd yng Nghaerdydd ac eisoes wedi rhoi pedwar prawf adnabod i bobl a oedd yn cael trafferthion heb un. Mae Prawf Adnabod yn rhoi mynediad i bobl i wasanaethau hanfodol y llywodraeth, y mae gan bob un ohonom hawl iddynt. Mae angen un i gael swydd, agor cyfrif banc, derbyn budd-daliadau a sicrhau tai fforddiadwy. Heb y gwasanaethau hanfodol hyn, mae bron yn amhosib dianc rhag digartrefedd. Y prif rwystr i gael Prawf Adnabod i berson sy’n profi digartrefedd yw…

Dodrefn
Ar ôl byw ar y stryd, mewn llety brys, hosteli ac ar soffas, byddai’n hawdd cymryd yn ganiataol mai cael tŷ parhaol yw’r cam olaf i rywun sy’n dioddef o ddigartrefedd. Fodd bynnag, yn achos rhywun sy’n cael tŷ fel hyn, mae’n debygol na fydd dodrefn yno nac eitemau sylfaenol fel gwely, ffwrn neu oergell. Mae llawer o’n grantiau mawr wedi helpu unigolion a theuluoedd i gael dodrefn a nwyddau gwyn i wneud eu llety yn gartref cyfforddus. Gall byw mewn cartref sydd wedi’i ddodrefnu wneud gwahaniaeth go iawn i rywun sy’n symud i ffwrdd o ddigartrefedd. Mae bod yn ddiogel yn y cartref yn helpu i adeiladu sefydlogrwydd mewn bywyd, a hwn yw’r ffactor pwysicaf yn aml o ran cadw pobl i ffwrdd o ddigartrefedd am byth.

Stori Wayne
Wayne dderbyniodd y grant CAERedigrwydd cyntaf erioed. Dechreuodd ei brofiad o ddigartrefedd pan oedd yn 15 oed, pan gollodd ei rieni gartref y teulu. Am y 25 mlynedd nesaf, ailadroddodd batrwm o ddigartrefedd, caethiwed a charchar tan iddo gyrraedd pwynt a’i orfododd i fynd i gael triniaeth. “Ro’n i wedi colli defnydd o fy nghoes chwith a fy mraich dde oherwydd fy nghamddefnydd o sylweddau. Ro’n i mewn lle gwael. Ro’n i’n gwybod na allwn i gario ‘mlaen, felly fe es i at The Wallich am help, ac fe wnaethon nhw fy rhoi mewn cysylltiad â Byddin yr Iachawdwriaeth. Yna fe ges i le mewn llety lloches. Penderfynais mai digon oedd digon, ac fe geisiais help am fy nghaethiwed i sylweddau.” Mae Wayne wedi bod yn sobor ers 2014, ac yn yr amser hwnnw mae wedi cwblhau cyrsiau di-rif i wella ei gyflogadwyedd, gan gynnwys cymwysterau mewn Saesneg, Mathemateg a…
Creu ein grantiau

Rheolir cronfa CAERedigrwydd gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.
Mae CAERedigrwydd wedi ymrwymo i sicrhau bod yr arian a roddir gan y cyhoedd yn helpu i newid bywydau pobl sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae FOR Cardiff wedi ymrwymo i dalu’r holl ffïoedd trafodion a gweinyddu fel bod 100% o’r cyfraniadau’n mynd i’r gronfa.
Caiff 10% o’r cyfraniadau eu clustnodi ar gyfer mudiadau sy’n gweithio gyda phlant sydd mewn perygl o ddioddef Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod er mwyn atal y genhedlaeth nesaf rhag bod yn ddigartref neu orfod troi at weithgarwch ar y stryd, fel cardota.
Gall mudiadau ymgeisio am grantiau o hyd at £750 ar gyfer unigolion a chaiff ceisiadau eu hasesu gan banel a oruchwylir gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.
Gallai enghreifftiau o geisiadau allai fod yn llwyddiannus gynnwys:
- Dillad addas ar gyfer cyfweliadau a / neu swydd
- Beic i deithio i swydd newydd
- Ffïoedd hyfforddiant / cwrs
- Talu am docyn i deithio i gwrdd â theulu sydd wedi ymddieithrio
- Dodrefn / eitemau i’r tŷ ar gyfer person oedd yn cysgu ar y stryd sydd wedi symud i mewn i denantiaeth
- Cwnsela
- Offer / deunyddiau at waith
Mae ceisiadau am grantiau’n agored nawr trwy cfiw.org.uk.
Caiff ceisiadau am grantiau o hyd at £250 eu prosesu o fewn pum diwrnod gwaith a’u penderfynu’n fewnol gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru. Cymerir 10 diwrnod gwaith i brosesu grantiau rhwng £250-£750, a chaiff y rhain eu penderfynu gan y panel.
Mae’r amserau prosesu hyn yn dibynnu ar ddychwelyd y llythyr cynnig a bod yr unigolyn a’i weithiwr cymorth yn llofnodi’r telerau ac amodau.
Unwaith iddynt gael eu dyfarnu, caiff y grantiau eu trin a’u monitro gan y mudiadau a ymgeisiodd – fyddwn ni fyth yn rhoi arian parod yn uniongyrchol i’r defnyddiwr gwasanaeth – a bydd angen prawf prynu. Cyfrifoldeb y mudiad fydd gweithio gyda phobl i wario’r arian yma o fewn cyfnod rhesymol.
Mae FOR Cardiff, Ardal Gwella Busnes Caerdydd, yn ariannu ymgyrch CAERedigrwydd er mwyn i’r arian a roddir gan y cyhoedd fynd i helpu pobl sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.
Rhoi digyswllt
Mae CAERedigrwydd yn cynnig ffordd wahanol i roi i bobl sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref – mae rhoi digyffwrdd yn un o’r ffyrdd yma.
Cewch hyd i orsafoedd talu digyffwrdd ble gallwch roi £3 yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd ac yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant.
Dengys ymchwil y bydd llai na chwarter o bobl, dros y deng mlynedd nesaf, yn cario arian parod yn rheolaidd. Mae CAERedigrwydd yn rhoi cyfle i feddwl yn wahanol am sut y gall pobl gyfrannu i’r digartref pan maent awydd gwneud hynny.
Yn bwysicaf oll, trwy gyfrannu gan ddefnyddio technoleg digyffwrdd gall yr elusennau sy’n dosbarthu’r arian sicrhau ei fod yn mynd tuag at helpu pobl i droi cefn ar y strydoedd am byth.
Mae FOR Cardiff, Ardal Gwella Busnes Caerdydd, yn ariannu ymgyrch CAERedigrwydd er mwyn i’r arian a roddir gan y cyhoedd fynd i helpu pobl sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.
