This area is exclusively for members of FOR Cardiff, this is where you can register/request ‘The Card’ and see the 100+ offers available to our members. If you're not sure if you're a member please check here or email us on info@forcardiff.com
Bydd cynllun arloesol ‘Cwpan Ail-lenwi a Dychwelyd’ Caerdydd yn mynd yn fyw ddydd Gwener 4 Hydref 2024, ac i ddathlu’r lansiad, bydd busnesau sy’n cymryd rhan ar draws y ddinas yn cynnig diod boeth o’u dewis i’r 50 cwsmer cyntaf i ddefnyddio’r cynllun.*
Mae menter ‘Cwpan Ail-lenwi a Dychwelyd Caerdydd’, y cyntaf yng Nghymru, yn galluogi cwsmeriaid i ‘fenthyca’ cwpan y gellir ei ailddefnyddio o unrhyw leoliad sy’n cymryd rhan a’i ddychwelyd yn ddiweddarach i’w olchi a’i ailddefnyddio.
Bydd y dull arloesol hwn yn lleihau gwastraff cwpanau untro ac yn gwneud Caerdydd yn ddinas wyrddach a mwy cynaliadwy, a’i nod yw mynd i’r afael â’r 2.5 biliwn o gwpanau coffi untro sy’n cael eu defnyddio bob blwyddyn yn y DU.
Busnesau sy’n cymryd rhan (pob un yn cynnig un coffi am ddim i’r 50 o ddefnyddwyr cyntaf y cynllun);
Bydd y cynllun uchelgeisiol hwn, a wireddwyd gan FOR Cardiff ar y cyd â City To Sea gyda chymorth £90,000 o gyllid gan Gronfa Rhannu Ffyniant Llywodraeth y DU, yn cael ei gynnal fel cynllun peilot tan fis Mawrth 2025, gan arbed 30,000 o gwpanau untro posibl rhag ymuno â’r ffrwd wastraff yng Nghaerdydd. Bydd effaith y cynllun yn cael ei werthuso gan Ysgol Busnes Caerdydd ac Ysgol Busnes Greenwich, gyda’r gobaith y bydd yn lasbrint ar gyfer prosiectau tebyg ledled y DU.
Dywedodd Carolyn Brownell, Cyfarwyddwr Gweithredol FOR Cardiff,
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at weld cynllun Cwpan Ail-lenwi a Dychwelyd Caerdydd yn cael ei lansio yr wythnos hon. Bydd y fenter hon yn helpu Caerdydd i leihau gwastraff, helpu busnesau Caerdydd i fod yn fwy cylchol, a hefyd yn annog dewisiadau mwy cynaliadwy yn ein bywydau bob dydd.”
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol City to Sea, Jane Martin:
“Yfwyr te a choffi yng Nghaerdydd – mwynhewch eich hoff baned, cefnogwch gaffis annibynnol lleol ac atal llygredd plastig! Mae dewis y Cwpan Ail-lenwi a dychwelyd yn gam hawdd i fynd i’r afael â gwastraff untro yn y ddinas, a gyda’r ap Refill gallwch ddod o hyd i lefydd i ail-lenwi eich potel ddŵr a siopa heb y deunydd pacio dibwrpas.’
Mae’r broses yn syml: mae cwsmeriaid yn lawrlwytho’r ap Refill, sganio cod QR i fenthyg cwpan y gellir ei ailddefnyddio a’i ddychwelyd i unrhyw leoliad sy’n cymryd rhan o fewn pythefnos – yn ddi-dâl. Mae’r ap yn darparu nodiadau atgoffa ac yn ei gwneud yn hawdd i ddefnyddwyr ddod o hyd i’r man codi neu ollwng agosaf, a dim ond os nad yw’r cwpan yn cael ei ddychwelyd o fewn pythefnos y codir ffi ar gwsmeriaid.”
Gwenno Jones, o Da Coffee:
“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r cynllun hwn. Wedi’i leoli’n berffaith yn agos i’r orsaf ganolog, gobeithiwn y bydd pobl fydd yn teithio i mewn i Gaerdydd am y diwrnod yn manteisio ar y cyfle i gymryd Cwpan Ail-lenwi gennym – gallant dreulio’r diwrnod cyfan yn y ddinas a mwynhau coffi wrth fynd, a sicrhau na fyddant yn creu unrhyw wastraff untro diangen.”
Sut mae Cwpan Ail-lenwi a Dychwelyd Caerdydd yn gweithio:
I gael rhagor o wybodaeth am gynllun Cwpan Ail-lenwi a Dychwelyd Caerdydd, ewch i www.forcardiff.com/cardiff-reusable-cup-scheme-launches-to-help-tackle-2-5-billion-single-use-coffee-cup-problem.
* Diod poeth safonol am ddim. Mae’n bosibl y bydd rhai cyfyngiadau’n berthnasol. Holwch bob busnes sy’n cymryd rhan am fanylion.