This area is exclusively for members of FOR Cardiff, this is where you can register/request ‘The Card’ and see the 100+ offers available to our members. If you're not sure if you're a member please check here or email us on info@forcardiff.com
Caerdydd AM BYTH 26-31 Trawsgrifiad Rhaglen Fideo
00:00:00:00 – 00:00:02:22
Mae cyfnod allweddol o drawsnewid ar droed yng Nghaerdydd.
00:00:02:22 – 00:00:05:18
Bydd datblygiadau mawr, seilwaith newydd a buddsoddiad
00:00:05:18 – 00:00:07:16
yn datgloi cyfleoedd sylweddol,
00:00:07:16 – 00:00:12:09
wrth i amodau economaidd barhau i herio busnesau’r ddinas.
00:00:12:09 – 00:00:16:15
Mae Cynllun Busnes Caerdydd AM BYTH am fanteisio ar y cyfleoedd hynny
00:00:16:15 – 00:00:19:04
ac ymateb yn rhagweithiol i’r heriau i ddod.
00:00:19:04 – 00:00:22:04
Cynllun yw hwn sydd wedi’i lunio gan fusnesau, i fusnesau.
00:00:22:04 – 00:00:25:18
Cynllun i gynnal y gwasanaethau mae Caerdydd yn dibynnu arnyn nhw
00:00:25:18 – 00:00:27:23
gan hybu uchelgais ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
00:00:27:23 – 00:00:30:03
Caerdydd am byth, cyflawni mwy gyda’n gilydd.
Caerdydd AM BYTH 26-31 Trawsgrifiad Fideo
00:00:02:14 – 00:00:04:20
Mae cyfnod tyngedfennol ar droed yng Nghaerdydd.
00:00:04:20 – 00:00:08:09
Buddsoddiad mawr. Seilwaith newydd. Mae twf Bae Caerdydd,
00:00:08:09 – 00:00:12:03
digwyddiadau byd-eang a phwysau economaidd parhaus
00:00:12:03 – 00:00:14:03
i gyd yn dylanwadu ar ddyfodol prifddinas Cymru.
00:00:14:03 – 00:00:19:04
Lluniwyd Cynllun Busnes 2026-2031 Caerdydd AM BYTH
00:00:19:04 – 00:00:22:08
mewn ymgynghoriad â busnesau canol y ddinas a Bae Caerdydd.
00:00:22:08 – 00:00:24:18
Mae’n canolbwyntio ar chwe blaenoriaeth glir;
00:00:24:18 – 00:00:27:09
creu dinas lanach, mwy diogel a mwy croesawgar,
00:00:27:09 – 00:00:30:19
bywiogi Caerdydd drwy ddigwyddiadau, diwylliant a phrofiadau,
00:00:30:19 – 00:00:34:17
gwella cysylltedd, rhoi llais cryfach i fusnesau,
00:00:34:17 – 00:00:39:06
meithrin gwytnwch hirdymor a buddsoddi yn y bobl sy’n gwneud i’r ddinas weithio go iawn.
00:00:39:06 – 00:00:41:11
Mae’r ffilm hon yn dwyn ynghyd y themâu hynny
00:00:41:11 – 00:00:43:18
drwy leisiau’r busnesau, y partneriaid
00:00:43:18 – 00:00:47:18
a’r cenhadon sy’n adnabod Caerdydd orau.
00:00:48:08 – 00:00:50:10
Yn amlwg, mae’r argraff gyntaf yn hollbwysig
00:00:50:10 – 00:00:52:04
ac mae’n ymwneud â’n dinas groesawgar.
00:00:52:04 – 00:00:54:24
Mae glendid yn dal i fod yn flaenoriaeth bwysig,
00:00:54:24 – 00:00:57:00
yn ôl dros fil o ymatebwyr,
00:00:57:00 – 00:00:59:00
ac yn agos at frig yr agenda.
00:00:59:00 – 00:01:00:15
Y pethau bychain yw’r sylfaen go iawn,
00:01:00:15 – 00:01:03:06
fel sy’n wir mor aml.
00:01:03:06 – 00:01:05:04
Rydyn ni’n gwybod, rydyn ni wedi clywed.
00:01:05:04 – 00:01:06:19
Mae’n rhaid i ni wneud y pethau sylfaenol yn iawn,
00:01:06:19 – 00:01:08:16
ac rydyn ni’n benderfynol o wneud hynny.
00:01:08:16 – 00:01:10:00
Yr argraff gyntaf honno.
00:01:10:00 – 00:01:11:21
Yr argraffiadau cyntaf yw’r rhai sy’n wirioneddol bwysig.
00:01:13:03 – 00:01:16:07
Mae Caerdydd yn gwneud mwy na dim ond cynnal digwyddiadau.
00:01:16:07 – 00:01:21:02
Mae’r ddinas gyfan yn bywiogi, a’r holl fusnesau
00:01:21:02 – 00:01:25:02
ar draws y ddinas yn rhoi croeso cynnes Cymreig i bawb sy’n ymweld.
00:01:25:09 – 00:01:28:13
Mae Caerdydd AM BYTH ynghlwm wrth lawer o weithgareddau.
00:01:28:13 – 00:01:31:15
Mae’r ymgyrchoedd Nadolig yn enghraifft heb ei hail.
00:01:31:15 – 00:01:35:16
Maen nhw’n denu ymwelwyr gydol y flwyddyn.
00:01:35:16 – 00:01:41:01
gan gysylltu rhannau helaeth o’r ddinas i greu un stori gydlynol.
00:01:41:04 – 00:01:46:00
Mae’r gweithgareddau a’r digwyddiadau mawr yn cydweddu go iawn.
00:01:46:15 – 00:01:48:17
Rydyn ni’n dda iawn am roi profiad gwych i bobl
00:01:48:17 – 00:01:52:00
o’r eiliad maen nhw’n cyrraedd y ddinas
00:01:52:00 – 00:01:54:21
i’r eiliad maen nhw’n gadael. Mae’n brofiad gwych.
00:01:54:21 – 00:01:59:02
Mae’r Tour de France a Phencampwriaeth Euro 2028 UEFA yn dod yma.
00:01:59:02 – 00:02:02:09
Mae’r rhain yn ddigwyddiadau pwysig iawn.
00:02:02:09 – 00:02:06:13
Gallwn greu rhywbeth i bobl ei fwynhau am amser hir.
00:02:08:14 – 00:02:11:15
Yng nghanol y ddinas, mae cysylltedd yn sail i bob dim,
00:02:11:15 – 00:02:15:19
o ran ymwelwyr, masnach neu fuddsoddiad yn y dyfodol.
00:02:15:24 – 00:02:17:18
Mae cysylltedd yn sail i’r cyfan.
00:02:17:18 – 00:02:20:13
Mae gan Caerdydd AM BYTH rôl bwysig yn cefnogi Trafnidiaeth Cymru
00:02:20:13 – 00:02:23:24
ar adeg o fuddsoddi yn y rhwydwaith trafnidiaeth.
00:02:23:24 – 00:02:26:15
Ac mae Dinas Caerdydd yn ganolbwynt i’r cyfan.
00:02:26:15 – 00:02:30:03
Mae’n rhaid sicrhau bod pobl yn gallu cyrraedd yma’n hawdd,
00:02:30:03 – 00:02:33:23
er mwyn i fusnesau elwa ar yr ymwelwyr a’r fasnach,
00:02:33:23 – 00:02:38:00
ac er mwyn i weithwyr gyrraedd y gwasanaethau a’u gweithleoedd.
00:02:38:00 – 00:02:41:04
Mae’n rhaid i ni gydweithio i sicrhau cysylltedd i bawb.
00:02:42:12 – 00:02:46:23
Caerdydd AM BYTH yw llais cyfunol y gymuned fusnes.
00:02:47:04 – 00:02:51:09
Pan fyddwn ni’n ymgysylltu â’r llywodraeth a llywodraeth leol
00:02:51:17 – 00:02:54:02
rydyn ni’n gwneud mwy na lleisio barn yn unig.
00:02:54:02 – 00:02:57:08
Rydyn ni’n cynrychioli anghenion cannoedd o fusnesau
00:02:57:08 – 00:02:58:19
ac mae hynny’n beth pwerus iawn.
00:03:00:05 – 00:03:03:01
Fel rhywun sydd â 40 mlynedd o brofiad
00:03:03:01 – 00:03:05:19
naill ai o reoli neu o redeg busnesau,
00:03:06:12 – 00:03:08:23
mae yna un gair allweddol, sef cyfathrebu.
00:03:08:23 – 00:03:12:18
Mae cynllun Ardaloedd Gwella Busnes yn ein galluogi ni
00:03:12:18 – 00:03:14:07
i fod yn yr amgylcheddau hynny, i fynychu’r cyfarfodydd hynny
00:03:14:07 – 00:03:15:23
lle gallwn ni gyfleu ein safbwyntiau.
00:03:16:12 – 00:03:20:04
Pobl fel fi, sef y rhai sy’n talu’r ardoll, yw aelodau’r bwrdd.
00:03:20:04 – 00:03:23:01
Felly mae gennym ni fuddiant personol, ceffyl yn y ras.
00:03:23:01 – 00:03:26:13
Rydyn ni’n craffu ar bob punt sy’n cael ei gwario.
00:03:26:13 – 00:03:28:19
Rydyn ni eisiau sicrhau’r budd mwyaf o’r buddsoddiad.
00:03:28:19 – 00:03:31:02
Mae’r achos yn agos iawn at ein calonnau ni.
00:03:31:02 – 00:03:35:02
Rydyn ni eisiau ychwanegu gwerth go iawn.
00:03:35:17 – 00:03:38:08
Curiad calon dinas yw ei phobl.
00:03:38:08 – 00:03:41:06
Nid adeiladau sy’n peri i ddinas ffynnu.
00:03:41:06 – 00:03:42:17
Ei phobl sy’n gwneud hynny.
00:03:42:17 – 00:03:47:22
Yn y pen draw, heb bobl, does dim calon gan ddinas
00:03:48:09 – 00:03:51:15
Ac mae’n rhaid cael pobl amrywiol,
00:03:51:15 – 00:03:55:06
meddylfryd amrywiol, ffyrdd amrywiol o ddatrys problemau,
00:03:55:06 – 00:04:00:01
ffyrdd amrywiol o addoli, ffyrdd amrywiol o fyw ein bywydau.
00:04:00:01 – 00:04:04:23
Mae o’n cwmpas ym mhobman, ac mae angen i ni fod yn ystyriol ohono.
00:04:06:22 – 00:04:11:13
Mae ymbarél cynaliadwyedd yn teimlo’n llethol i lawer o fusnesau.
00:04:11:21 – 00:04:15:09
Mae llawer yn edrych arno fel un ateb i bawb, ond nid dyna fel y mae hi.
00:04:15:09 – 00:04:18:10
Nid mater o wneud i’ch busnes ffitio i batrwm penodedig yw hyn.
00:04:18:10 – 00:04:21:02
Mae’n ymwneud ag edrych ar eich arferion busnes cyfredol
00:04:21:02 – 00:04:22:16
a gweld beth allwch chi ei wneud.
00:04:22:16 – 00:04:26:01
Mae Caerdydd AM BYTH yn cynnig rhwydwaith cymorth
00:04:26:01 – 00:04:27:24
a storfa o adnoddau
00:04:27:24 – 00:04:30:18
er mwyn i chi deimlo bod eich busnes yn rhan o rywbeth.
00:04:30:18 – 00:04:34:20
Mae’n haws dilyn cymorth dan arweiniad na dim ond dilyn rheolau
00:04:34:20 – 00:04:37:23
sydd efallai’n annelwig neu’n anghydnaws â’ch model busnes.
00:04:37:23 – 00:04:39:18
Yn y pen draw, os yw pawb ar yr un dudalen
00:04:39:18 – 00:04:42:07
o ran eu nodau amgylcheddol a’u nodau cymdeithasol,
00:04:42:07 – 00:04:44:19
bydd hynny’n arwain at arferion busnes iachach
00:04:44:19 – 00:04:45:21
a gwell brwdfrydedd ymhlith staff.
00:04:45:21 – 00:04:48:15
Pan fydd prosiect o’r fath yn digwydd ar lefel dinas gyfan,
00:04:48:15 – 00:04:49:23
mae’n naturiol o fudd i bawb.
00:04:50:16 – 00:04:54:21
Mae’r dyfodol yn un cyffrous iawn, ac erbyn carreg filltir 2031,
00:04:54:24 – 00:04:57:13
rydyn ni’n disgwyl gweld cymuned fusnes wirioneddol fywiog,
00:04:57:13 – 00:04:59:08
lle mae’r holl fusnesau yn cydweithio.
00:04:59:08 – 00:05:02:14
Mae digwyddiadau gwirioneddol gyffrous yng Nghaerdydd wedi dangos hynny.
00:05:02:14 – 00:05:06:05
Drwy rwydweithio trylwyr a rhannu syniadau gwych,
00:05:06:05 – 00:05:09:04
rydyn ni’n sicrhau ein bod ni’n cefnogi busnesau annibynnol
00:05:09:04 – 00:05:11:10
yn ogystal â’r busnesau mawr.
00:05:12:15 – 00:05:17:08
Mae Caerdydd AM BYTH yn chwarae rhan aruthrol o ran hyfforddiant a datblygiad
00:05:17:08 – 00:05:20:06
i wneud yn siŵr bod ein staff ni a holl weithwyr y busnesau hynny
00:05:20:06 – 00:05:21:11
yn meddu ar yr holl adnoddau angenrheidiol.
00:05:21:11 – 00:05:27:03
Dinas fywiog, gyda chysylltiadau da, sy’n edrych yn dda gyda phobl hyfryd.
00:05:27:03 – 00:05:28:08
Dyna ruddin Caerdydd.
00:05:31:11 – 00:05:34:19
Cynllun yw hwn sydd wedi’i lunio gan fusnesau, i fusnesau.
00:05:34:19 – 00:05:38:00
Cynllun i gynnal y gwasanaethau mae Caerdydd yn dibynnu arnyn nhw
00:05:38:00 – 00:05:40:03
gan hybu uchelgais ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
00:05:40:03 – 00:05:42:05
Caerdydd am byth, cyflawni mwy gyda’n gilydd.