Hunan-gyflogaeth

Mae gan bobl sy’n dioddef o ddigartrefedd neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref o leiaf un gollfarn droseddol yn aml, sy’n ei gwneud yn anodd iawn iddynt ddod o hyd i swydd. Mae llawer o ffurflenni cais yn holi ynghylch gweithgarwch troseddol blaenorol, ac mae’n rhaid i ni ddatgelu hyn dan y gyfraith oherwydd bydd llawer o gwmnïau’n cwblhau gwiriadau GDG.

Mae hunan-gyflogaeth yn opsiwn gwahanol, ac mae CAERedigrwydd wedi helpu dau ymgeisydd am grant allan o ddiweithdra. Gyda’r grant £750 llawn, maent wedi gallu prynu’r offer hanfodol i ddechrau eu busnes.

Gall cofnod troseddol atal cynnydd person sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o ddigartrefedd, gan ei adael heb lawer o opsiynau i ennill arian. Mae hyn yn cynyddu’r posibilrwydd y bydd yn troi’n ôl at droseddu i oroesi.

Ni ddylai hanes o droseddu atal rhywun rhag symud ‘mlaen. Gall y grant yma helpu pobl sy’n dioddef o ddigartrefedd i fagu hyder ac ysgogiad i weithio a sicrhau nad ydynt yn aildroseddu.

Prawf Adnabod

Gall rhywbeth mor syml â bod yn berchen ar ryw fath o Brawf Adnabod fod yn gam allweddol o ran dianc rhag digartrefedd yn barhaol. Gall trwyddedau gyrru, pasbortau a thystysgrifau geni gael eu colli neu eu dwyn yn hawdd pan fo rhywun yn cysgu ar y stryd, ac mae’n anodd iawn cael rhai newydd heb gyfeiriad parhaol.

Mae CAERedigrwydd yn cefnogi mynediad i Brawf Adnabod i bobl sy’n profi digartrefedd yng Nghaerdydd ac eisoes wedi rhoi pedwar prawf adnabod i bobl a oedd yn cael trafferthion heb un.

Mae Prawf Adnabod yn rhoi mynediad i bobl i wasanaethau hanfodol y llywodraeth, y mae gan bob un ohonom hawl iddynt. Mae angen un i gael swydd, agor cyfrif banc, derbyn budd-daliadau a sicrhau tai fforddiadwy. Heb y gwasanaethau hanfodol hyn, mae bron yn amhosib dianc rhag digartrefedd.

Y prif rwystr i gael Prawf Adnabod i berson sy’n profi digartrefedd yw diffyg arian. Cost gyfartalog trwydded yrru yn y DU yw £34-£43 – mae’r gost yn wahanol ar gyfer gwneud cais ar-lein neu drwy’r post. Os byddwch yn rhoi arian i bobl sy’n cysgu ar y stryd bydd yn rhaid iddynt ddewis rhwng cynilo am drwydded neu dalu am eu hanghenion sylfaenol fel bwyd a lloches.

Dodrefn

Ar ôl byw ar y stryd, mewn llety brys, hosteli ac ar soffas, byddai’n hawdd cymryd yn ganiataol mai cael tŷ parhaol yw’r cam olaf i rywun sy’n dioddef o ddigartrefedd. Fodd bynnag, yn achos rhywun sy’n cael tŷ fel hyn, mae’n debygol na fydd dodrefn yno nac eitemau sylfaenol fel gwely, ffwrn neu oergell.

Mae llawer o’n grantiau mawr wedi helpu unigolion a theuluoedd i gael dodrefn a nwyddau gwyn i wneud eu llety yn gartref cyfforddus.

Gall byw mewn cartref sydd wedi’i ddodrefnu wneud gwahaniaeth go iawn i rywun sy’n symud i ffwrdd o ddigartrefedd. Mae bod yn ddiogel yn y cartref yn helpu i adeiladu sefydlogrwydd mewn bywyd, a hwn yw’r ffactor pwysicaf yn aml o ran cadw pobl i ffwrdd o ddigartrefedd am byth.

Stori Wayne

Wayne dderbyniodd y grant CAERedigrwydd cyntaf erioed. Dechreuodd ei brofiad o ddigartrefedd pan oedd yn 15 oed, pan gollodd ei rieni gartref y teulu. Am y 25 mlynedd nesaf, ailadroddodd batrwm o ddigartrefedd, caethiwed a charchar tan iddo gyrraedd pwynt a’i orfododd i fynd i gael triniaeth.

“Ro’n i wedi colli defnydd o fy nghoes chwith a fy mraich dde oherwydd fy nghamddefnydd o sylweddau. Ro’n i mewn lle gwael. Ro’n i’n gwybod na allwn i gario ‘mlaen, felly fe es i at The Wallich am help, ac fe wnaethon nhw fy rhoi mewn cysylltiad â Byddin yr Iachawdwriaeth. Yna fe ges i le mewn llety lloches. Penderfynais mai digon oedd digon, ac fe geisiais help am fy nghaethiwed i sylweddau.”

Mae Wayne wedi bod yn sobor ers 2014, ac yn yr amser hwnnw mae wedi cwblhau cyrsiau di-rif i wella ei gyflogadwyedd, gan gynnwys cymwysterau mewn Saesneg, Mathemateg a chwnsela. Fodd bynnag, er ei fod wedi gwneud llawer o wirfoddoli, mae wedi’i chael hi’n anodd dod o hyd i swydd barhaol. Newidiodd popeth yn ystod ei amser gyda The Big Issue.

“Dywedodd The Big Issue wrtha i am CAERedigrwydd ac y bydden nhw’n rhoi swydd lawn-amser i fi pe bawn i’n pasio fy mhrawf gyda’r cyllid. Cyflwynais i’r cais a chymryd y prawf – gan basio tro cyntaf – a’r diwrnod nesa fe wnaethon nhw roi fan a chontract llawn-amser i fi.”

Mae Wayne nawr yn gweithio fel Datblygwr Gwerthwyr yn The Big Issue yn asesu anghenion pobl ac yn defnyddio ei brofiad o ddigartrefedd hirdymor i helpu eraill.

“Rwy’n gweithio deg awr yng Nghaerdydd yn cefnogi pobl ar y stryd, a gyda gweddill fy amser rwy’n dosbarthu cylchgronau yng Nghasnewydd, Trefynwy a Rhosan ar Wy.”

Gyda’i drwydded yrru, gall Wayne fwynhau lefel newydd o annibyniaeth.

“Rwy’n gallu ymweld â fy nheulu, mynd allan am fwyd gyda ffrindiau a pharhau i hyfforddi’r tîm pêl-droed digartref lleol… Mae fy mywyd newydd, gyda’r swydd a’r fan, diolch i gronfa CAERedigrwydd. Mae wedi newid fy mywyd.”