Darllen y siarter

Y
siarter

Trechu digartrefedd gyda’n gilydd

Mae ein siarter wedi ei chreu ar y cyd rhwng mudiadau i’r digartref er mwyn uno pobl, busnesau, ysgolion a phrifysgolion, unrhyw un sy’n rhannu ein cennad – i drechu digartrefedd yng Nghaerdydd.

Darllenwch ein siarter ac addunedu eich cefnogaeth i helpu pobl sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref i oresgyn eu heriau.

Siarter Digartrefedd Caerdydd

Rydym yn credu…

…y dylai pawb sy’n ddigartref fod â hawl i:

  • Gefnogaeth i greu ansawdd bywyd da
  • Llety saff a diogel
  • Gwarchodaeth lawn y gyfraith
  • Parch a gwasanaethau o safon dda
  • Cydraddoldeb mynediad i wybodaeth a gwasanaethau
  • Cydraddoldeb cyfleoedd i waith, hyfforddiant, gwirfoddoli, hamdden a gweithgareddau creadigol

…bod gan y bobl hynny sy’n gweithio gyda phobl ddigartref gyfrifoldeb torfol i sicrhau bod:

  • Pob darpariaeth yn canolbwyntio ar sicrhau newid a chyflawni anghenion uniongyrchol, gyda ffocws ar helpu pobl i chwalu cylch digartrefedd
  • Cyfathrebu da, cydlynu ac agwedd strategol gyson yn cael ei throsglwyddo ar draws pob gwasanaeth
  • Pobl sydd â phrofiad o ddigartrefedd lais a rhan wrth benderfynu ar y datrysiadau i’w problemau eu hunain, i ddigartrefedd, ac i broblemau a wynebir gan gymdeithas yn fwy cyffredinol

…y dylai cymuned ehangach Caerdydd:

  • Drin pobl sy’n ddigartref, neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, gydag urddas a pharch
  • Empatheiddio gyda phobl sydd â bywydau cymhleth sy’n wynebu anawsterau gwirioneddol wrth geisio dianc rhag digartrefedd a’i effeithiau
  • Cefnogi a hyrwyddo gwasanaethau sy’n helpu pobl i drechu digartrefedd yng Nghaerdydd
  • Osgoi gweithredoedd allai wreiddio digartrefedd
Cyflwyno rhodd