MEMBERS LOG IN

This area is exclusively for members of FOR Cardiff, this is where you can register/request ‘The Card’ and see the 100+ offers available to our members. If you're not sure if you're a member please check here or email us on info@forcardiff.com

Dont have an account? Sign up

Yn ôl

Llwybr Straeon y Mabinogi 

Taith hudolus drwy hen chwedlau. 

Ewch ar antur gyfeillgar i’r teulu drwy’r ddinas, gan gasglu straeon o chwedlau enwocaf Cymru. Ymgollwch mewn byd o ffantasi a hanes Cymreig am ychydig oriau. Perffaith ar gyfer plant chwilfrydig a’r oedolion hefyd! 

Y Llwybr
• Ymweld â phum stop yng nghanol y ddinas
• Casglwch eich llyfr sticeri a’ch stori gyntaf o’n hardal chwarae yng Nghanolfan Dewi Sant
• Casglu straeon a sticeri o bob stop ar y llwybr
• Cwblhewch y llwybr i gael eich cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill gwobr 

Man Cychwyn: St. David’s Dewi Sant – Dewch o hyd i ni ger y Gwasanaethau Gwesteion ar y Lefel Uchaf.
Man Gorffen: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd*
11:30am – 3:30pm Dydd Sul 1af Mawrth 

*Mae unrhyw un sy’n cyrraedd y stop olaf erbyn 2:30yp yn cael gwahoddiad i ymuno â ni ar gyfer perfformiad arbennig yn Oriel 4. 

Mae’r Mabinogi yn dyddio ’nôl i’r Oesoedd Canol ac yn fynegiant cynnar o fytholeg Cymru.  Llawn hud a chyffro, maent yn archwilio dewrder a theyrngarwch. Dysgwch ragor: Y Mabinogi 

Read this in English

Ni fyddai Pethau Bychain yn bodoli heb ein partneriaid:

Gyda mynediad hawdd i Gaerdydd Canolog a Stryd y Frenhines, mae teithio i’r ddinas yn rhan o’r dathliad, gan ei gwneud hi’n syml i bawb fwynhau gweithgareddau am ddim, sy’n addas i deuluoedd, a darganfod diwylliant Cymru ar hyd y ffordd.

Beth yw tocyn trên Teulu?

Mae’n docyn trên dychwelyd sy’n gadael i ddau blentyn dan 16 oed deithio am ddim gydag oedolyn sy’n talu. Perffaith ar gyfer arbed arian i chi ar deithiau trên teuluol.

BWCIWCH EICH TOCYNNAU NAWR

 

 

Gydag orielau ysbrydoledig, awyrgylch croesawgar a mynediad am ddim, yr Amgueddfa Genedlaethol yw’r lle perffaith i ddathlu straeon, cerddoriaeth a chreadigrwydd Cymru yng nghanol y ddinas. Dyma pam ei bod wedi’i dewis fel y stop olaf yn Llwybr Chwedlau’r Mabinogi, lle bydd pobl o bob oed yn cychwyn ar antur a fydd yn mynd â nhw yr holl ffordd o Ganolfan Dewi Sant i’n hatriwm. Dewch â’ch llyfryn chwedlau wedi’i gwblhau i’r amgueddfa, casglwch eich sticer olaf a thynnwch hunlun i gofio Dydd Gŵyl Dewi a’r pethau bychain a wnaethoch chi.

BWCIWCH EICH TOCYN MYNEDIAD AM DDIM

Canolfan Siopa Dewi Sant fydd man cychwyn Llwybr Straeon y Mabinogi, taith gerdded sy’n addas i deuluoedd drwy’r ddinas wedi’i hysbrydoli gan straeon gwerin mwyaf poblogaidd Cymru. Gyda chroeso cynnes, gweithgareddau hwyliog i bob oed a mynediad hawdd at siopau, caffis a bwytai, Canolfan Siopa Dewi Sant yw’r lle perffaith i ddechrau eich dathliadau Dydd Gŵyl Dewi.

Er mwyn hyrwyddo ac ehangu’r defnydd cymdeithasol o’r iaith Gymraeg yng Nghaerdydd, mae Menter Caerdydd, yn garedig, wedi darparu gwasanaethau prawf-ddarllen a threfnu gwirfoddolwyr i groesawu ymwelwyr sy’n dilyn y Llwybr.