This area is exclusively for members of FOR Cardiff, this is where you can register/request ‘The Card’ and see the 100+ offers available to our members. If you're not sure if you're a member please check here or email us on info@forcardiff.com
Amser maith yn ôl, pan oedd yr Ymerodraeth Rufeinig yn ei hanterth, roedd ymerawdwr pwerus a doeth o’r enw Macsen Wledig yn llywodraethu. Er i’w elynion ofni ef, roedd Macsen ynadnabyddus ymhlith ei bobl fel arweinydd teg a hael.
Un prynhawn cynnes, wedi blino ar ôl delio â materion yr ymerodraeth, cwympodd Macsen i gysgu. Wrth iddo gysgu, cafodd freuddwyd a fyddai’n newid ei fywyd am byth.

Yn ei freuddwyd, aeth am dro trwy diroedd prydferth iawn gan weld dyffrynnoedd gwyrddion, afonydd glân gloyw a mynyddoedd mawr. Wrth gerdded ymhellach, daeth o hyd i gastellgodidog, nas welodd mo’i debyg erioed o’r blaen. Yno, cyfarfu Macsen ag Elen, menyw anarferol o hardd oedd hefyd yn ddoeth ac yn garedig. Wrth iddynt gerdded a sgwrsio, gwyddaiMacsen ei fod wedi dod o hyd i enaid hoff gytûn.

Pan ddeffrodd, roedd Macsen yn llawn hiraeth. Yn benderfynol o ddod o hyd i’r fenyw a’r tir a welodd yn ei freuddwyd, anfonodd ei ymgynghorwyr ledled y byd i chwilio amdanynt. Wedi teithiau di-ri heb unrhyw lwyddiant, daethant i Brydain, a darganfod bod y wlad yn hynod o debyg i’r lle yn y freuddwyd. Yna, daethant o hyd i’r castell, ac i Elen ei hun.

Teithiodd Macsen i Brydain a datgan ei fod mewn cariad ag Elen. Roedd Elen hefyd wedi breuddwydio am Macsen felly derbyniodd ei gynnig i’w briodi a chynhaliwyd parti mawr i ddathlueu priodas. Gyda’i gilydd, llywodraethent â doethineb a gofal, gan ddod â heddwch a chyfoeth i’w tiroedd. Helpodd Elen i greu rhwydwaith o ffyrdd cadarn a diogel ledled yr ymerodraeth;llwybrau a’u hadwaenir fel Ffyrdd Elen, gan gysylltu cymunedau pell a siapio hanes.

Arweiniodd breuddwyd Macsen ef nid yn unig at gariad, ond hefyd at undod, gyda’i enw yn dod yn rhan o chwedlau ac etifeddiaeth y Cymry. Dyma stori ag ystyr tragwyddol sy’n dangosnerth ffawd a breuddwydion.