MEMBERS LOG IN

This area is exclusively for members of FOR Cardiff, this is where you can register/request ‘The Card’ and see the 100+ offers available to our members. If you're not sure if you're a member please check here or email us on info@forcardiff.com

Dont have an account? Sign up

Chwedl Pwyll, Tywysog Dyfed 

Yn nhiroedd hudolus Dyfed trigai tywysog caredig a bonheddig o’r enw Pwyll. Roedd yn llywodraethwr teg oedd yn gofalu am ei bobl. Un diwrnod, wrth hela mewn coedwig ynghanol y niwl, aeth Pwyll ar hynt carw mawr. Yn fuan, daeth ei gŵn hela ar draws criw arall o gŵngwyn disglair oedd yn wahanol i unrhyw gŵn a welodd Pwyll erioed. Roeddent yn perthyn i Arawn, Brenin Annwn, yr Arallfyd. 

I wneud yn iawn am ei gamgymeriad, cytunodd Pwyll yn ddewr i gyfnewid lle ag Arawn am flwyddyn a diwrnod. Bu Pwyll yn llywodraethu Annwn yn ddoeth ac, ar ddiwedd y flwyddyn, trechodd elyn Arawn, gan ddod â heddwch i’r Arallfyd. Pan ddaeth yr amser iddychwelyd, diolchodd Arawn i Bwyll, a daeth y ddau yn ffrindiau oes. 

Yn ôl yn Nyfed, cyfarfu Pwyll â Rhiannon, gwraig hudolus yn marchogaeth ceffyl gwyn. Dewisodd Rhiannon Pwyll yn ŵr iddi, a gyda’i gilydd fe wnaethant oresgyn heriau a byw’n hapus. Yn ddiweddarach cawsant fab o’r enw Pryderi, a ddiflannodd yn ddirgel adeg ei eni.

Er iRhiannon gael ei chyhuddo ar gam am ei ddiflaniad, yn y diwedd datgelwyd y gwir, a dychwelwyd eu mab coll atynt yn y pen draw.

Y Diwedd 

Colli'r llwybr? Lawrlwythwch ac argraffwch gartref

Read it in English