MEMBERS LOG IN

This area is exclusively for members of FOR Cardiff, this is where you can register/request ‘The Card’ and see the 100+ offers available to our members. If you're not sure if you're a member please check here or email us on info@forcardiff.com

Dont have an account? Sign up

Yr Hen Fenyw Ddoeth a Peredur 

Ynghanol coedwig hynafol trigai hen fenyw ddoeth ac roedd pawb yn ei hadnabod fel Arglwyddes y Goedwig. Roedd hi’n byw mewn bychan wedi’i orchuddio gan iorwg ymysg coed tal, ac roedd yn hoff o ofalu am y planhigion oedd yn tyfu o amgylch ei chartref. Roeddhi’n credu ym mhwerau iacháu’r planhigion ac yn eu defnyddio i gynorthwyo teithwyr oedd yn ymweld â’i milltir sgwâr. 

Un diwrnod, wrth gasglu perlysiau, gwelodd ddyn ifanc yn agosáu. Roedd e’n gwisgo dillad syml ond roedd ei lygaid yn disgleirio â chwilfrydedd a phenderfyniad. Sylweddolodd yn syth mai Peredur, mab Evrawc, oedd yntau, ac roedd o’r farn bod dyfodol disglair o’i flaen. 

“Shwmae,” meddai hi. “Beth sydd wedi dod â thi i’r rhan hon o’r goedwig?”
“Rwyf am ddod yn farchog,” atebodd Peredur. 

Gan synhwyro bod ei galon yn llawn daioni, croesawodd Arglwyddes y Goedwig ef i’w thŷ clyd ac eisteddodd y ddau wrth y tân. Yno, rhannodd hi’r doethineb yr oedd wedi’i gasglu. 

Yn gyntaf, dysgodd ef am drugaredd a chydymdeimlad. “Rhaid i farchog roi anghenion pobl eraill o flaen ei hun,” meddai hi. “Nid yw nerth yn werth dim heb garedigrwydd.” Dangosodd ef sut i ddefnyddio planhigion i wneud eli iachaol i wella cleifion. 

Dysgodd ef hefyd am amynedd a dyfalbarhad. Cerddant gyda’i gilydd trwy’r goedwig, gan ddilyn anifeiliaid a dysgu sut i wylio’r byd naturiol. “Yn aml,” meddai hi, “dim ond i’r rhai sy’n gwylio ac aros y daw’r atebion.” 

Gwrandawodd Peredur yn ofalus, gan ofyn cwestiynau a dysgu’n gyflym. Dros amser, nid yn unig y datblygodd ei sgiliau, ond hefyd ei gymeriad; roedd yn fwy ystyrlon, yn cydymdeimlo’n fwy ac yn fwy doeth nag o’r blaen. 

Un noson, wrth i’r haul fachlud y tu ôl i’r coed, sylweddolodd Arglwyddes y Goedwig ei bod hi’n bryd iddo adael. “Rwyt wedi dysgu cymaint yma,” meddai hi. “Nawr rhaid i ti fynd â’r gwersi hyn i’r byd ehangach.” 

Diolchodd Peredur iddi a gadael y , yn barod i wynebu’r hyn oedd o’i flaen gyda doethineb a dewrder. Gwyliai Arglwyddes y Goedwig ef yn diflannu i’r coed, gan wybod y byddai ei stori’n parhau ym myd y chwedlau. 

Y Diwedd  

Colli'r llwybr? Lawrlwythwch ac argraffwch gartref

Read it in English